Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) – Ystyriaeth Cyfnod 1

At:             Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Gan:          Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Dyddiad:   8 Tachwedd 2012

Diben

1.        Gwahodd y Pwyllgor i nodi ffordd ymlaen ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) (‘y Bil’) a’r fframwaith ar ei gyfer.

Cefndir

2.        Ar 23 Hydref 2012, cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (‘y Pwyllgor’), gyda 22 Chwefror 2013 fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad arno. Mae’r amserlen eglurahol a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes ar gael yn Atodiad A.

3.        Ar 24 Hydref 2012, cyflwynodd Peter Black AC y Bil a’r Memorandwm Esboniadol.

4.        Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei ddull o ran gwaith craffu Cyfnod 1 a chytunodd ar y dull hwn y tu allan i’w gyfarfodydd pwyllgor.

Rôl y Pwyllgor

5.        Rôl y Pwyllgor yng Nghyfnod 1 yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt (Rheol Sefydlog 26.10). Nid oes unrhyw ofynion penodol mewn Rheolau Sefydlog sy’n llywodraethu’r ffordd y mae’r Pwyllgor yn gwneud y gwaith craffu hwn.

6.        Ar ôl i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad, bydd dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i’r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Os cytunir ar yr egwyddorion cyffredinol, bydd Cyfnod 2 y broses yn golygu bod y Pwyllgor yn ystyried y Bil yn fanwl, gan gynnwys gwaredu gwelliannau (bwriedir i Gyfnod 2 ddigwydd yn ystod mis Ebrill a Mai 2013 ar hyn o bryd).

Fframwaith awgrymedig

7.        Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, awgrymir bod y Pwyllgor yn gweithio o fewn y fframwaith canlynol:

Ystyried argymhelliad y Pwyllgor i’r Cynulliad o ran a ddylai gymerdawyo egwyddorion cyffredinol y Bil, gan ystyried:

1.   a oes angen Bil i sefydlu cyfundrefn drwyddedu ar gyfer safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru, a gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoli a gweithredu safleoedd o’r fath;

2.   a yw’r Bil, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn cyflawni’r nodau a ddatganwyd ynddo;  

3.   prif ddarpariaethau’r Bil, ac a ydynt yn briodol i gyflawni ei ddibenion;

4.   a oes unrhyw rwystrau posibl o ran rhoi darpariaethau’r Bil ar waith, ac os felly, a yw’r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt;

5.   a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd;

6.   a oes cydbwysedd rhesymol rhwng y pwerau ar wyneb y Bil a’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth; a

7.   barn rhanddeiliaid yr effeithir arnynt gan y Bil, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, berchenogion tai symudol, perchenogion a gweithredwyr parciau cartrefi symudol, awdurdodau lleol fel awdurdodau trwyddedu safleoedd a’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.

Agwedd y Pwyllgor tuag at waith craffu Cyfnod

8.        Yn unol â’r dyddiad cau a nodwyd gan y Pwyllgor Busnes, bydd angen i’r pwyllgor gwblhau ei waith craffu ar y Bil a gosod ei adroddiad gerbron erbyn 22 Chwefror 2013 fan bellaf.

9.        Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yn caniatáu un ar ddeg wythnos o amser cyfarfod y Cynulliad i wneud y gwaith hwn.

10.     Mae’r Pwyllgor wedi cytuno ar y dull a ganlyn:

·         Galwad gyffredinol am dystiolaeth
Cyhoeddi galwad gyffredinol am dystiolaeth, a fyddai’n cael ei hysbysu i’r cyfryngau yng Nghymru a’i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad. Ceir copi o’r llythyr ymgynghori a rhestr o’r cwestiynau ymgynghori drafft yn Atodiad B. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad yn caniatáu cyfnod ymgynghori o ychydig dros bump wythnos, rhwng 5 Tachwedd a 7 Rhagfyr.

·         Gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig
Gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig gan sefydliadau ac unigolion a ddewiswyd. Ceir rhestr o’r ymgyngoreion yn Atodiad C.

·         Tystiolaeth lafar
Gwahodd rhanddeiliaid allweddol i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfodydd yn y dyfodol (ochr yn ochr â’r ymarfer ymgynghori). Ceir rhestr o’r tystion ac amlinelliad o’r rhaglen waith yn Atodiad D.

Pwyllgorau eraill

11.     Er gwybodaeth, mae’r Rheolau Sefydlog yn galluogi’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gyflwyno adroddiad ar yr agweddau perthnasol ar y Bil. Tynnwyd sylw’r ddau bwyllgor at y Bil, a bydd y clerc yn sicrhau bod y Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf petai’r naill bwyllgor neu’r llall yn dewis craffu ar y Bil.

Themâu allweddol

12.     Mae’r Bil, fel y’i drafftiwyd, yn cynnwys nifer o themâu allweddol, sydd wedi’u nodi fel a ganlyn:

·         egwyddorion cyffredinol;

·         gweinyddu’r gwaith o drwyddedu;

·         gorfodi trwyddedau;

·         rheoli safleoedd;

·         y berthynas gytundebol rhwng gweithredwyr safleoedd a pherchenogion cartrefi.

13.     Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i barhau â’i arfer blaenorol o ddosbarthu themâu i aelodau unigol o’r Pwyllgor, gyda’r bwriad o alluogi iddynt ddatblygu arbenigedd mewn perthynas â’r gwaith o graffu ar y Bil.

Cam i’w gymryd

14.     Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i nodi’r dull y cytunwyd arno a nodi’r fframwaith ar gyfer y gwaith o graffu ar Fil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) yn ystod Cyfnod 1.

 


Atodiad A

Amserlen
Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Carreg Filltir

Dyddiadau

1. Cyflwynwyd y Bil / Gosodwyd y Bil  

25 Hydref 2012 (dydd Iau)

2. Dyddiad cau i’r Pwyllgor ystyried y Bil yng Nghyfnod 1

22 Chwefror 2013

3. Cyfnod 1 yn dod i ben – Dadl ar yr egwyddorion cyffredinol yn y Cyfarfod Llawn

6 Mawrth 2013

4. Cyfnod 2 yn dechrau

7 Mawrth 2013

5. Dyddiad cynharaf posibl ar gyfer ystyried y Bil yng Nghyfnod 2

17 Ebrill 2013

6. Cyfnod 2 yn dod i ben – Dyddiad cau ar gyfer y pwyllgor yng Nghyfnod 2

10 Mai 2013

7. Cyfnod 3 yn dechrau

13 Mai 2013

8. Cyfnod 3 a Chyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn

12 Mehefin 2013

9. Cydsyniad Brenhinol

Gorffennaf 2012

Nodiadau

2          Mae hyn yn caniatáu 11 wythnos eistedd ar gyfer trafodion Cyfnod 1 yn y pwyllgor.
Toriad mis Hydref: 29 Hydref 2012 - 4 Tachwedd 2012
Toriad y Nadolig: 10 Rhagfyr 2012 - 7 Ionawr 2013

4          Mae Cyfnod 2 yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Gyfnod 1 ddod i ben.
Toriad y Pasg: 25 Mawrth 2013 – 12 Ebrill 2013

5          Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau Cyfnod 2 a’r cyfarfod pwyllgor cyntaf.

6          Mae tri chyfarfod posibl wedi eu caniatáu ar gyfer trafodion Cyfnod 2.

7          Mae Cyfnod 3 yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i Gyfnod 2 ddod i ben.

8          Rhaid i 15 diwrnod gwaith o leiaf fynd heibio rhwng dechrau Cyfnod 3 a dyddiad cyfarfod cyntaf y Cynulliad sy’n ystyried trafodion Cyfnod 3.

9          Mae’r dyddiad hwn yn dibynnu ar y cyfnod cyfeirio ac ymyrryd o bedair wythnos, ac wedi hynny, a yw Ei Mawrhydi ar gael i roi Cydsyniad Brenhinol.

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Communities, Equality and Local Government Committee

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay
 Caerdydd / Cardiff
CF99 1NA

 

Dd mm yyyy

Atodiad B

Annwyl Syr/Madam

Ymgynghoriad ar Fil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Beth yw Bil?

Cyfraith ddrafft yw Bil.  Ar ôl i’r Cynulliad ystyried a phasio Bil, a chael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae’n dod yn ‘Ddeddf y Cynulliad.’

Mae pedwar cyfnod i’r broses o ystyried Bil.  Mae Cyfnod 1 yn golygu cael pwyllgor i ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil (sy’n cynnwys cymryd tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan rai sydd â diddordeb a chan randdeiliaid), a chael chytundeb y Cynulliad i’r egwyddorion cyffredinol hynny.

Beth mae’r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni?

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn datgan:

"Mae i’r Bil hwn nifer o amcanion.    Yn gyntaf, cyflwyno cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer safleoedd cartrefi symudol a rhoi pwerau digonol i’r awdurdodau lleol i orfodi’r gyfundrefn honno.   Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod perchnogion a rheolwyr safleoedd yn pasio prawf person addas a phriodol [...]  Bydd y Bil hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i gymeradwyo cod ymarfer o ran rheoli safleoedd yn ogystal â phwerau i wneud rheoliadau rheoli.  Ar ben hyn, mae’r Bil yn ceisio moderneiddio nifer o agweddau ar y berthynas gontractiol rhwng perchnogion cartrefi symudol a gweithredwyr safleoedd, gan gynnwys newid y broses ar gyfer prynu a gwerthu cartrefi."

"Nid yw’r Bil yn effeithio ar y gyfraith sy’n ymwneud â safleoedd carafannau gwyliau neu garafannau teithiol, er y bydd yn effeithio ar safleoedd dibenion cymysg [...] o ran y rhannau preswyl."

Beth yw rôl y Pwyllgor?

Rôl y Pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt.  Wrth wneud hyn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:

Ystyried a ddylai’r Pwyllgor argymell bod y Cynulliad yn cymerdawyo egwyddorion cyffredinol y Bil, gan ystyried:

1.   a oes angen Bil i sefydlu cyfundrefn drwyddedu ar gyfer safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru, a gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoli a gweithredu safleoedd o’r fath;

2.   a yw’r Bil, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn cyflawni’r nodau a ddatganwyd ynddo;  

3.   prif ddarpariaethau’r Bil, ac a ydynt yn briodol i gyflawni ei ddibenion;

4.   a oes unrhyw rwystrau posibl o ran rhoi darpariaethau’r Bil ar waith, ac os felly, a yw’r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt;

5.   a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd;

6.   a oes cydbwysedd rhesymol rhwng y pwerau ar wyneb y Bil a’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth; a

7.   barn rhanddeiliaid yr effeithir arnynt gan y Bil, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, berchenogion tai symudol, perchenogion a gweithredwyr parciau cartrefi symudol, awdurdodau lleol fel awdurdodau trwyddedu safleoedd a’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.

Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad

Rydym yn gwerthfawrogi y caswoch, efallai, wahoddiad yn ddiweddar i ymateb i ymarferiad ymgynghorol gan Peter Black AC, a oedd yn gofyn am eich barn am ystod o gynigion polisi er mwyn bod yn sail i ddrafftio’r Bil.

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig er mwyn ein cynorthwyo ni â’r gwaith o graffu ar y Bil, ac felly yn gofyn am eich barn ar nodau ac amcanion y Bil fel y’i draffitwyd, ac o ran yr effaith y bydd y Bil yn ei chael.   Yn benodol, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad 1.

Sut i gyfrannu

Mae amryw o ffyrdd o gyflwyno tystiolaeth, ond rhaid i bob cyflwyniad ein cyrraedd erbyn 7 Rhagfyr 2012.  Efallai na fydd yn bosibl inni ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

E-bost

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth ar e-bost, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at pwyllgor.CCLll@cymru.gov.uk, gan roi "Ymgynghoriad – Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)" yn llinell pwnc y neges e-bost. 

Ar-lein

Os hoffech gyflwyno eich tystiolaeth ar-lein, mae cwestiynau’r ymgynghoriad ar gael yn https://www.surveymonkey.com/s/Bil-Safleoedd-Rheoleiddiedig-Cartrefi-Symudol.

Llythyr

Os hoffech ysgrifennu atom, dyma’r cyfeiriad:

Helen Finlayson
Clerc
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Wrth baratoi eich cyflwyniad, cadwch y canlynol mewn cof:

·         dylai eich ymateb gyfeirio at y materion sydd gerbron y Pwyllgor;

·         bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel rheol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael yn gyhoeddus, ac efallai y cânt eu gweld a’u trafod gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd pwyllgor.  Os nad ydych am i’ch ymateb na’ch enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’r dystiolaeth;

·         nodwch ai ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad yr ydych; a

·         nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau Iaith Gymraeg ddarparu cyflwyniadau dwyieithog, yn unol â'u polisïau ar ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref a thymor y gwanwyn.

Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor yn gwahodd ymatebion gan y rhai a enwyd ar y rhestr atodedig (gweler Atodiad 2).  Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar petaech yn gallu anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.  Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor.  O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad.  Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Helen Finlayson, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8600 neu drwy e-bost, Helen.Finlayson@wales.gov.uk.


Yn gywir

Ann Jones AC / AM
Cadeirydd / Chair


Atodiad 1

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cyffredinol

1.     A oes angen am Fil i ddiwygio’r trefniadau ar gyfer trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig cartrefi symudol yng Nghymru a gwneud darpariaeth ar gyfer eu rheoli a’u gweithredu?  Esboniwch eich ateb.

2.     A ydych yn credu bod y Bil, fel y’i drafftiwyd, yn bodloni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn y Memorandwm Esboniadol? Esboniwch eich ateb.

3.     Yn eich barn chi, a fydd y gyfundrefn drwyddedu a gorfodi y mae’r Bil yn ei sefydlu yn addas?  Os na fydd, ym mha ffordd y dylid newid y Bil?

4.     A yw cynigion y Bil o ran prawf person addas a phriodol ar gyfer perchenogion a gweithredwyr safleoedd yn briodol a beth fydd y goblygiadau?

5.     A yw’r gwelliannau i’r berthynas gytundebol rhwng perchenogion cartrefi symudol a pherchenogion safleoedd a fyddai’n cael eu gwneud yn sgìl y Bil yn berthnasol?  Os nad ydynt, ym mha ffordd y dylid newid y Bil?

6.     Yn eich barn chi, sut fydd y Bil yn newid y gofynion ar berchenogion a gweithredwyr y safleoedd hyn, a beth fydd effaith y newidiadau hyn, os o gwbl?

7.     A ydych yn cytuno y dylai’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl fod â’r awdurdodaeth i ymdrin â’r holl achosion o anghydfod sy’n ymwneud â’r Bil hwn, ar wahân i erlyniadau troseddol? Rhowch resymau, os gwelwch yn dda.

8.     Beth yw’r rhwystrau posibl i roi darpariaethau’r Bil ar waith (os ydynt yn bodoli), ac a yw’r Bil yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt?

 

Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth

9.     Beth yw eich barn am y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (hynny yw, offerynau statudol, gan gynnwys rheoliadau, gorchmynion a chyfarwyddiadau)?

Yn eich ateb i’r cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried Adran 5 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl yn crynhoi’r pwerau a fydd yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru yn y Bil.

Goblygiadau ariannol

10.  Yn eich barn chi, beth yw goblygiadau ariannol y Bil?  Dylech ystyried graddfa’r goblygiadau ariannol a’r ffordd y maent wedi cael eu dosbarthu.

Wrth ateb y cwestiwn hwn, mae’n bosibl y byddwch am ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol) sy’n cynnwys amcangyfrif o’r costau a’r buddion sy’n gysylltiedig â rhoi’r Bil ar waith.

 

Sylwadau eraill

11.  A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud am rannau penodol o’r Bil?

 


Atodiad 2

Rhestr o’r ymgyngoreion

Categori

Sefydliad/Enw

 

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru

 

Huw Lewis AC (Y Gweinidog Treftadaeth, Adfywio a Thai)

Awdurdodau lleol

Pob awdurdod lleol yng Nghymru

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Yr heddlu

Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu

Senedd y DU

Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Gymunedau a Llywodraeth Leol

 

Mark Prisk AS (Gweinidog dros Dai)

 

Peter Aldous AS (Bil Aelod Preifat)

 

Grŵp Trawsbleidiol ar Gartrefi Symudol

Yr Alban

Grŵp Trawsbleidiol ar Gartrefi mewn Parciau

 

Llywodraeth yr Alban

Perchenogion cartrefi symudol

Cymdeithas Genedlaethol Preswylwyr Cartrefi mewn Parciau

 

Ymgyrch Gyfiawnder Perchenogion Cartrefi mewn Parciau

 

Cynghrair Gweithredu Preswylwyr Cartrefi mewn Parciau

Perchenogion safleoedd cartrefi symudol

Perchenogion safleoedd

 

Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain

 

Urdd y Landlordiaid Preswyl

 

Wyldecrest Parks

 

Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

 

Cyngor Carafanau Cenedlaethol

Cyrff cynghori

Gwasanaeth Ymgynghori Annibynnol ar Gartrefi mewn Parciau

 

Rhwydwaith Cenedlaethol Cefnogi Pobl 

 

Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru

 

Cyngor ar Bopeth

 

Llais Defnyddwyr Cymru

Sefydliadau busnes

CBI Cymru

 

Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

 

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

 

Urdd Gwasanaethau Cartrefi mewn Parciau

Academyddion

Prifysgol Caerdydd, y Sefydliad Adfywio

 

Prifysgol Efrog, Canolfan Polisi Tai

 

Prifysgol Sheffield, yr Adran Cynllunio Trefol a Rhanbarthol

 

Arsyllfa Wledig Cymru

 

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Tai)

 

Canolfan Llywodraethiant Cymru

Sefydliadau Tai

Caer Las Cymru

 

Gofal a Thrwsio Cymru

 

Sefydliad Tai Siartredig Cymru

 

Cartrefi Cymunedol Cymru

 

Cymorth Cymru

 

Cymuned

 

Rhwydwaith Tai Amlfeddiannaeth

 

Cymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai

 

Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr

 

Rhwydwaith Digartrefedd Cenedlaethol

 

Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Cymru

 

Ffederasiwn Tenantiaid Cymru

 

Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

 

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

 

Shelter Cymru

Arall

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

 

Sefydliad Joseph Rowntree

 

NACRO

 

Stonewall Cymru

 

Eglwys Bresbyteraidd Cymru

 

The Wallich

 

Y Comisiynydd Pobl Hŷn

 

Age Cymru


Atodiad D

Rhaglen waith amlinellol

Dyddiad

Gweithgaredd a argymhellir

Wythnos yn dechrau 5 Tachwedd

Ymgynghoriad yn agor

14 Tachwedd

Peter Black AC

Llais Defnyddwyr Cymru

22 Tachwedd

Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl

Awdurdodau Lleol

28 Tachwedd

Cynrychiolwyr perchenogion/gweithredwyr safleoedd cartrefi symudol

Cynrychiolwyr perchenogion cartrefi symudol

6 Rhagfyr

Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

7 Rhagfyr

Yr ymgynghoriad yn dod i ben

Toriad y Nadolig (rhwng 10 Rhagfyr a 4 Ionawr)

9 Ionawr

Peter Black AC

Trafodaeth ar y materion allweddol

17 Ionawr

Trafodaeth bellach ar y materion allweddol yn bosibl os yw’n ofynnol

6 Chwefror

Ystyried yr adroddiad drafft

Toriad hanner tymor (rhwng 11 a 15 Chwefror)

22 Chwefror

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar Gyfnod 1

6 Mawrth

Dadl ar Gyfnod 1